Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Equality, Local Government and Communities Committee
ELGC(5)-08-17 Papur 3/ Paper 3
Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet
Camau dilynol y sesiwn graffu - 8 Chwefror 2017
Diolch ichi am ddod i'r Pwyllgor ar 8 Chwefror i helpu i lywio dealltwriaeth y Pwyllgor o newid agwedd Llywodraeth Cymru tuag at dlodi.
Yn y cyfarfod fe wnaethoch gytuno i ddarparu’r canlynol:
- Gwybodaeth am y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, yn gynnar yn y broses;
- Ffigurau o'r gwaith ymchwil a wnaed yn ddiweddar i fudd-daliadau sydd wedi'u tan-hawlio ar gyfer y ddau gyfnod ariannol diwethaf;
- unrhyw dystiolaeth sydd ar gael o werthusiad y rhaglenni Esgyn a Chymunedau am Waith. Os nad oes tystiolaeth ar gael, hoffem ichi egluro pa waith gwerthuso fydd yn cael ei wneud;
- nodyn ar Fond Lles Cymru;
- linc i'r adroddiad trydedd blwyddyn ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi: Creu Cymunedau Cryf, sy'n cynnwys ystadegau perthnasol ar dlodi plant;
- y dangosfwrdd data a ddefnyddiwyd i
werthuso cynnydd polisïau a rhaglenni; ac
- ymchwilio i'r mater o absenoldeb a nodwyd gan Joyce Watson AC wrth drafod caffael moesegol;
Ar ôl trafod y dystiolaeth, roeddem hefyd yn awyddus i godi nifer o faterion ychwanegol:
Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (PPIW)
Fel rhan o brosiect ''Beth sy'n Gweithio wrth fynd i'r afael â thlodi” y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, rydym yn ymwybodol ei fod wedi cyhoeddi’r gwaith ymchwil canlynol:
§ Improving the Economic Performance of Wales: Existing Evidence and Evidence Needs;
§ Alternatives Approaches to Reducing Poverty and Inequality;
§ New Directions in Employment Policy a
§ Rethinking the Work Programme in Wales
Byddem yn croesawu gwybodaeth ynglŷn â sut y mae'r gwaith ymchwil uchod wedi llywio newid agwedd Llywodraeth Cymru tuag at dlodi.
Grwpiau cynghori
Yn ystod y
sesiwn, fe wnaethom ymchwilio i rôl grwpiau cynghori
Llywodraeth Cymru. Clywsom y bu adolygiad o'r holl grwpiau ar draws
Llywodraeth Cymru, i ddeall yn well y ffordd orau i gefnogi'r newid
mewn ffocws. Rydym hefyd yn deall bod hyn yn cyd-fynd ag adolygiad
ehangach sy'n edrych ar 'bensaernïaeth gyfan y rhwydweithiau
cynghori' ar draws Llywodraeth Cymru. Byddem yn croesawu rhagor o
wybodaeth am yr adolygiadau hyn, gan gynnwys:
- Eglurhad ynghylch a oes proses adolygu ar wahân yn cael ei rhoi ar waith ar gyngor yn ymwneud â thlodi, neu a yw hyn yn cael ei gynnwys yn yr adolygiad ehangach o holl rwydweithiau cynghori; (Os oes dwy broses ar wahân, rhowch y wybodaeth ganlynol ar gyfer y ddau adolygiad).
- Yr amserlen ar gyfer yr adolygiad(au);
- Y broses/prosesau ymgynghori, gan gynnwys amserlenni, pwy yr ymgynghorir â hwy a sut;
- P'un a ydych yn bwriadu cyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad (au); a
- Pryd yr ydych yn bwriadu cyflwyno unrhyw newidiadau yn dilyn yr adolygiad(au).
Lledaenu ffyniant economaidd
Yn ystod y sesiwn fe wnaethom hefyd drafod yr heriau o ledaenu ffyniant economaidd drwy Gymru. Fe wnaethoch ddweud y byddech, o fewn y strategaeth 'Ffyniannus a Diogel' a'r strategaeth 'Unedig a Chysylltiedig' yn disgwyl gweld arweiniad clir ar y rôl y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae mewn perthynas â hyn. Byddem yn croesawu rhagor o fanylion am farn Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, a pha gamau y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ein trafodaethau ar y materion hyn.
Yn gywir
John Griffiths AC
Cadeirydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.